Home 🎬 Bollywood 🎵 Pakistani 🎤 English Pop

05:00

👤 Gwilym 🎼 05:00 ⏱️ 3:26
🎵 1183 characters
⏱️ 3:26 duration
🆔 ID: 17309863

📜 Lyrics

Lle
Ffeindia dy le
Ti'n byw ar y we
Pump yn y bore
Mwy
Ti'n mynnu mwy
Anadlu y nwy
Neith dy dywys di adra
Ti'n esgus dal i fyny hefo'r byd a'i drefn
Ti'n ceisio creu gwirionedd tra ti ar dy gefn
A ti'n mynnu cael dy le
Sicr dy agwedd
Dangos dy duedd
A ti'n mynnu cael dy le
Cyn ti gymryd o nôl
Sicr dy agwedd
Dangos dy duedd
Ti'n troelli'r allwedd
Anghofio'r niwed
Wrth ti fynnu cael dy le
Cyn ti gymryd o nôl
Hun
Ti ben dy hun
Tu allan o'r llun ers chydig o oria
Pam, ti'n gofyn pam
Pam gymeris di'r cam
Sy'n bellach o adra
Ti'n dechrau gweld y blinder yn dy lygaid di
Daw'r byd a'i drefn i wrando ar dy eiria di
A ti'n mynnu cael dy le
Sicr dy agwedd
Dangos dy duedd
A ti'n mynnu cael dy le
Cyn ti gymryd o nôl
Sicr dy agwedd
Dangos dy duedd
Ti'n troelli'r allwedd
Anghofio'r niwed
Wrth ti fynnu cael dy le
Cyn ti gymryd o nôl
Ti'n ysu profi mwy ond ti methu dweud y geiria
Cerdded trwy y nwy a ti methu gweld y gola
Ysu profi mwy ond ti methu dweud y geiria
Pan ti'n mynnu cael dy le
Sicr dy agwedd
Dangos dy duedd
A ti'n mynnu cal dy le
Cyn ti gymryd o nôl
Sicr dy agwedd
Dangos dy duedd
Ti'n troelli'r allwedd
Anghofio'r niwed
Wrth ti fynnu cael dy le
Cyn ti gymryd o'n ôl

⭐ Rate These Lyrics

Average: 0.0/5 • 0 ratings