Home ๐ŸŽฌ Bollywood ๐ŸŽต Pakistani ๐ŸŽค English Pop

da/drwg

๐Ÿ‘ค Gwilym โ€ข ๐ŸŽผ rhan dau โ€ข โฑ๏ธ 4:37
๐ŸŽต 986 characters
โฑ๏ธ 4:37 duration
๐Ÿ†” ID: 23588426

๐Ÿ“œ Lyrics

Ti'n gwrando'n daer
A dwi'm yn cofio
Wyt ti'n meddwl amdana i
Bob yn ail dydd?
Dwisho aros yn y gwely
Dim awydd codi tra mae'r aer yn oer
A dwi'n ofni tynnu'r llenni
Sgen i ddim byd i ddeud wrth yr haul na'r lloer
Ti'n fy ngweld i'n suddo lawr
Suddo mewn i'r gobaith bod y clocia'n mynd i rewi ac y larwm yn distewi
Cofio be sy'n dda'n neu'n ddrwg
Dwi di blino o guddio draw ger y mwg
Dwi'm yn cofio be sy'n dda neu'n ddrwg
Dwi di blino, dwi'm yn cofio
Ti di codi o dy wely,
Chos ma na ormod i' wneud, gormod i'w ddweud
Barod am y llenni
Golau haul a'r lloer yn bygwth pylu
Ti wastad ar dy ora'
Byw bywyd perffaith lle ti'n eistedd a chwedloni pennod nesa' o dy stori.
Ti'n gwrando yn daer
A dwi'm yn cofio
Cofio be sy'n dda'n neu'n ddrwg
Dwi di blino o guddio draw ger y mwg
Dwi'm yn cofio be sy'n dda neu'n ddrwg
Dwi di blino, dwi'm yn cofio
Ti'n gwrando'n daer,
A dwi'm yn cofio.
Wyt ti'n meddwl amdana i?
Chos dwi'n meddwl amdana chdi
Na'i drio codi i deimlo'r budd, bob yn ail dydd

โญ Rate These Lyrics

โ˜†โ˜†โ˜†โ˜†โ˜†
Average: 0.0/5 โ€ข 0 ratings