Home 🎬 Bollywood 🎵 Pakistani 🎤 English Pop

Comed 1858

👤 Cerys Hafana 🎼 Edyf ⏱️ 3:59
🎵 878 characters
⏱️ 3:59 duration
🆔 ID: 30064036

📜 Lyrics

Draw yn yr ëangderau
Ymddengys hwyr a borau
Wib-seren hynod
O fewn y cylch serennog
'Does blaned mor fawreddog
A hon i'w chanfod

Dros fil o filoedd
Maith o filltiroedd
Drwy'r hardd ardaloedd
A grognant uwch y llawr
Pa ddyn all chwilio allan
Wir angian hon yn awr?

Hi heria holl alluoedd
Seryddwyr mawr yr oesoedd
A'u gwydr-ddrychau
I'w chwilio hyd yr eithaf
A chanfod cylchoedd pellach
Pob oes yn nghyfwng amser
Ddadguddia ryw orwychder

Pe engyl gwlad goleuni
Ar edyn ddeuai'n codi
Ar daith felltenawl
Cae, weled myrdd myrddiynau
O newydd ryfeddodau
Y bröydd wybrenawl

O'r sail ymsiglant
Ac ymollyngant
Pob defnydd doddant
A'r sêr a syrthiant lawr
Yr haul a'r lloer a ddûant
O! ryfedd, ryfedd awr

Hi heria holl allnoedd
Seryddwyr mawr yr oesoedd
A'u gwydr-ddrychau
I'w chwilio hyd yr eithaf
A chanfod cylchoedd pellach
Pob oes yn nghyfwng amser
Ddadguddia ryw orwychder

⭐ Rate These Lyrics

Average: 0.0/5 • 0 ratings